Y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Equality, Local Government and Communities Committee
ELGC(5)-08-17 Papur 2/ Paper 2
Annwyl Ysgrifennydd y Cabinet
Yn ddiweddar, clywsom dystiolaeth lafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, a fydd o gymorth i arwain y Pwyllgor o ran edrych ar dlodi yng Nghymru.
Fel rhan o'r sesiwn hon, buom yn trafod y materion o fudd-daliadau heb eu hawlio a chynhwysiant ariannol. Cytunwyd i ysgrifennu atoch, fel yr Ysgrifennydd Cabinet cyfrifol.
Budd-daliadau heb eu hawlio
Mae hwn yn fater a oedd yn ymwneud â’n Pwyllgor blaenorol, ac rydym yn rhannu’r pryderon hyn. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, clywsom am waith fel Cyngor Da, Byw’n Well, a fydd o gymorth i fynd i’r afael â'r mater hwn. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd swyddogion i ddarparu nodyn am y prosiect sy'n rhoi gwybodaeth am fudd-daliadau mewn meddygfeydd.
Fodd bynnag, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r mater hwn, byddem yn croesawu rhagor o ddata a gwybodaeth am lefel y budd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru. Rydym yn ymwybodol bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyhoeddi amcangyfrifon o’r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm. Cyhoeddwyd y set ddata olaf ym mis Mehefin 2016 ar gyfer 2014/15. Mae'r data hwn yn cynnwys Prydain Fawr i gyd. Hoffem gael eglurhad ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn cadw gwybodaeth gyfatebol. Byddwn hefyd yn ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â’r mater hwn.
Cynhwysiant ariannol
Wedi’i gysylltu'n agos â hyn y mae'r mater ehangach o gynhwysiant ariannol. Rydym yn ymwybodol bod undebau credyd yn chwarae rhan bwysig o ran cyflawni'r agenda cynhwysiant ariannol, ac yn arbennig, cynnig credyd fforddiadwy i gymunedau. Byddem yn croesawu rhagor o wybodaeth am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi a hyrwyddo gwaith undebau credyd.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Yn gywir
John Griffiths AC
Cadeirydd
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.